Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg / This document is also available in Welsh.
An exciting opportunity has arisen for highly motivated and flexible individuals, who are knowledgeable in Health and Fitness to join the Fitness Suite team at Llanrisant Leisure Centre.
You will be responsible for supervising customers using equipment, inducting new members, compiling training programmes, taking fitness classes and dealing with customers of all fitness levels and abilities. As such, you will be an excellent communicator with a very high level of customer care skills.
You will possess a Level 2 fitness Instructor qualification or equivalent and preferably have experience in working in a similar busy environment and be aware of current fitness trends.
The possession of a First Aid at Work Certificate, current Fitness Class Instruction certificates, and fitness Assessment qualification / GP Referral Qualifications are also desirable, alternatively you will be given the opportunity to work towards achieving these within an agreed timescale.
The posts are advertised on a permanent basis.
For further information or an informal discussion about this opportunity please contact Gary Dalton – (01443) 224616.
Protecting children and vulnerable adults is a core responsibility of all staff appointed to the Council.
In addition to this safeguarding responsibility, the successful applicant for this role will also be subject to an enhanced disclosure and barring service check.
The Council values diversity in its workforce. We are committed to ensuring that no unlawful discrimination occurs in the recruitment and selection process on the grounds of age, sex, race, disability, sexual orientation, transgender, including those with non-binary identities, religion or belief or pregnancy and maternity. We offer a number of staff networks for employees including the Allies Network, a Disability and Carers Network and Perthyn our LGBTQ+ Network.
An application submitted for this post in Welsh will not be treated less favourably than an application made in English.
As part of the Council’s longer term objectives in relation to the Welsh language and its Workforce Planning Strategy, it is committed to a guaranteed interview scheme for Welsh-speakers of Level 3 and above. If you meet the essential criteria as identified in the person specification for the job and are a Welsh-speaker of Level 3 and above, you will be invited to interview if you choose to participate in the scheme.
In view of the large number of Application Forms which are currently being submitted individual applications are not acknowledged. Consequently if you do not hear from us within four weeks of the closing date, please assume that your application is unsuccessful on this occasion. In which case you are thanked for the interest you have shown in applying for a position within the Council.
In support of the Council’s voluntary pledge to support the Armed Forces, the recruiter must always be prepared to ensure that applicants who have identified themselves as members of the Armed Forces including Service Leavers, Veterans or Reservists and who meet the essential criteria of the person specification, are offered an interview.
Cynorthwy-ydd yr Ystafell Ffitrwydd
1 x 13 awr yr wythnos, parhaol
Dyma gyfle cyffrous i unigolion hyblyg a brwdfrydig iawn sydd â gwybodaeth eang am faes Iechyd a Ffitrwydd ymuno â Charfan yr Ystafell Ffitrwydd yng Canolfan Hamdden Llantrisant.
Byddwch chi'n gyfrifol am oruchwylio cwsmeriaid sy'n defnyddio'r offer, arwain sesiynau sefydlu aelodau newydd, hel rhaglenni hyfforddi at ei gilydd, cynnal dosbarthiadau ffitrwydd a delio â chwsmeriaid o bob gallu a lefel ffitrwydd. Felly, bydd gyda chi sgiliau cyfathrebu ardderchog a sgiliau gofal i gwsmeriaid o safon arbennig o dda.
Byddwch chi'n meddu ar gymhwyster Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol, ac yn ddelfrydol, bydd gyda chi brofiad o weithio mewn amgylchedd tebyg ac yn effro i'r tueddiadau diweddaraf o ran ffitrwydd.
Mae Tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, Tystysgrif Hyfforddi Dosbarth Ffitrwydd gyfredol, cymhwyster Asesu Ffitrwydd a chymhwyster atgyfeirio Meddyg Teulu hefyd yn ddymunol. Fel arall, byddwch chi'n cael cyfle i weithio tuag at gyflawni'r rhain o fewn amserlen y cytunwyd.
Mae'r swyddi yn barhaol.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r cyfle yma, ffoniwch Gary Dalton ar (01443) 224616.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.